Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 18(4) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

tai, cymru

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n deillio o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol er mwyn diweddaru croesgyfeiriadau at “gwarediadau esempt” o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan y Ddeddf ac o ganlyniad i ddiddymu’r gofynion i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i warediadau tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan y Ddeddf.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003 (O.S. 2003/1417) o ganlyniad i ddiddymu’r gofynion i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i warediadau tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan y Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 18(4) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2018 Rhif (Cy. )

tai, cymru

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

Gwnaed                               Gorffennaf 2018

Yn dod i rym                             15 Awst 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018([1]).

Yn unol ag adran 18(4) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Awst 2018.

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2. Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([2]) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(1) Yn adran 173(1)(b) yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”.

(2) Yn adran 173(7) hepgorer “9 or”.

Diwygio Deddf Tai 1996

3. Yn adran 40 o Ddeddf Tai 1996([3]) hepgorer is-adran (5).

Diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003

4. Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(1) Yn rheol 95, hepgorer paragraff (2)(d).

(2) Yn rheol 183A, hepgorer paragraff (1).

(3) Yn Atodlen 4—

(a)     yn ffurflen X—

                           (i)    yn y pennawd, hepgorer “81 or”;

                         (ii)    yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”; a

                       (iii)    hepgorer “section 81 of that Act or”.

(b)     Hepgorer ffurflen KK.

 

 

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2018 dccc 4.

([2])           1989 p.42

([3])           1996 p.52

([4])           O.S. 2003/1417